Yr ymosodwyr ar yr archfarchnad yn Paris ddoe: Hayat Boumeddiene, sy'n dal ar ffo, a'i chariad Amedy Coulibaly sydd wedi cael ei ladd (llun: PA)
Mae’r heddlu yn Ffrainc yn dal i chwilio am gariad y llofrudd a ymosododd ar archfarchnad Iddewig yn Paris ddoe.

Llwyddodd Hayat Boumeddiene, 26 oed, i ddianc pan ymosododd heddlu arfog ar y gwarchae gan ladd Amedy Coulibaly a oedd yn dal 19 o bobl yn wystlon.

Roedd pedwar o’r gwystlon wedi cael eu llofruddio ganddo.

Mae Hayat Boumaddiene o dan amheuaeth hefyd o chwarae rhan yn llofruddiaeth plismones yn ne Paris fore Iau.

Tridiau erchyll

Dechreuodd y gyfres o ddigwyddiadau erchyll ddydd Mercher pan ymosododd dau frawd, Cherif a Said Kouachi ar swyddfeydd y cylchgrawn dychanol Charlie Hebdo gan ladd 12 o bobl.

Ar ôl deuddydd ar ffo, cafodd y ddau eu saethu’n farw gan yr heddlu mewn gwarchae ar stad ddiwydiannol i’r gogledd-ddwyrain o Paris tua 5 o’r gloch brynhawn ddoe.

Fe ddaeth i’r amlwg yn ystod y dydd fod y gwarchae yn yr archfarchnad yn gysylltiedig â’r ymosodiad ar Charlie Hebdo gan fod Coulibaly a Boumeddiene yn siarad â’r ddau frawd yn barhaus drwy’r dydd.

Mae al Qaeda wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad.

Apelio am undod

Wrth i Ffrainc geisio dygymod â digwyddiadau’r tridiau diwethaf, mae arlywydd y wlad, Francois Hollande, wedi apelio am undod.

“Dw i’n galw arnoch i gyd i fod ar eich gwyliadwriaeth ac i gadw’n unedig. Rhaid i’r wladwriaeth ddangos ei bod ar ei gwyliadwriaeth.

“Dw i’n gofyn ichi aros yn unedig – dyma yw’n harf cryfaf. Mae’n dangos ein bod ni’n benderfynol o ymladd yn erbyn unrhyw beth a all ein rhannu ni.”

Fe fydd rali o undod yn  Paris yfory, ac mae disgwyl i’r Prif Weinidog David Cameron fod ymhlith yr arweinwyr tramor yno.