Mae’r heddlu yn dweud bod y ddau frawd oedd yn cael eu hamau o ymosod ar staff Charlie Hebdo, wedi marw. Mae eu gwystl wedi dianc yn ddianaf.
Hefyd mae’r dyn arfog oedd yn cadw gwystlon mewn marchnad ym Mharis wedi marw. Fe gafodd nifer o bobol eu harwain o’r farchnad yn nwyrain y ddinas.
Roedd ffrwydron a bwledi wedi eu tanio tu allan i’r adeilad lle’r oedd y ddau frawd wedi eu cornelu gyda gwystl, a heddlu ‘Swat’ ar do’r adeilad sy’n eiddo i gwmni printio ar Ystad Ddiwydiannol ger Dammartin-en-Goele, rhyw 25 milltir y tu allan i Baris.
Yn ôl adroddiadau roedd yr heddlu wedi ymosod ar y brodyr y prynhawn yma. O fewn munudau i’r ymosodiad ar y brodyr roedd gwystlon yn cael eu rhyddhau o’r farchnad ym Mharis.
Roedd Cherif Kouachi, 32, a Said Kouachi, 34, yn cael eu hamau o ladd 12 o staff y cylchgrawn dychanol Charlie Hebdo ym Mharis echdoe.