Mae’r dyn arfog sy’n cadw o leiaf pump o bobl yn wystlon mewn marchnad yn nwyrain Paris wedi bygwth eu lladd nhw, os wnaiff yr heddlu fynd i’r afael â’r ddau frawd sydd wedi eu cornelu a’u hamau o lofruddio staff Charlie Hebdo, meddai heddwas.
Yn ôl adroddiadau mae’r brodyr Kouachi wedi eu dal mewn gwarchae yn nhref Dammartin-en-Goele, tua 25 milltir y tu allan i Baris, gyda channoedd o heddlu yn eu hamgylchynu.
Mae’r heddlu yn dweud bod gwystlon mewn dau leoliad gwahanol a’r achosion yn gysylltiedig.
Anafwyd nifer o bobol pan saethodd y dyn arfog fwledi yn y farchnad y prynhawn yma, ac fe lwyddon nhw i ddianc a chael triniaeth feddygol.
Nid yw’n glir os oes mwy o bobol wedi eu hanafu yn y farchnad.