Mae cyhoeddiad hufenfa First Milk eu bod am ohirio talu am laeth wedi cael ei ddisgrifio fel ergyd arall i ffermwyr Cymru – sydd eisoes yn ei chael hi’n anodd delio â chyfnod o ostyngiadau mewn prisiau llaeth.
Y llynedd, fe wnaeth y cwymp mewn prisiau llaeth achosi “straen ariannol mawr” i fusnesau ffermio, a oedd yn galw am fwy o weithredu i gefnogi’r ffermwyr.
A heddiw, cyhoeddodd y Llywodraeth bod First Milk yn gohirio taliadau am bythefnos.
Dywedodd llywydd undeb yr FUW, Emyr Jones y bydd y penderfyniad diweddaraf yn cael “effaith ddifrifol”.
“Mae FUW yn bryderus iawn ynglŷn â’r dewis,” meddai.
“Nid yw ffermwyr yn medru gohirio eu biliau cartref a chostau eraill ac felly mae hyn yn eu rhoi mewn sefyllfa anodd.
“Rydym hefyd yn pryderu bod cwmni sy’n casglu llawer o laeth o Gymru mewn trafferthion ac yn bwriadu trafod hyn gyda First Milk.”