Mae Cynghorydd Plaid Cymru wedi datgan ei balchder wedi i’r Grid Cenedlaethol gyhoeddi y bydd yn gosod rhan o linell drydan newydd yng ngogledd Cymru o dan y ddaear ger ei ward hi.

Dywedodd Sian Gwenllian, Cynghorydd y Felinheli bod hyn yn “newyddion gwych” i’r ardal ger Caernarfon, ond ei bod yn siomedig na fydd y llinell gyfan yn cael ei phlannu o dan y ddaear.

Fe fydd y Grid Cenedlaethol yn gosod gwifrau uwchben y ddaear, neu beilonau, ar Ynys Môn a fydd yn dilyn y trywydd presennol – sy’n mynd trwy Rosgoch, Llandyfrydog, Capel Coch, Rhosmeirch a Phenmynydd.

Y bore yma, fe gyhoeddodd Arweinydd Cyngor Môn, Ieuan Williams, ei bryder am yr effeithiau posib ar amgylchedd, tirlun a thwristiaeth, sydd werth dros £250m y flwyddyn i economi’r Ynys.

Fe fydd y gwifrau yn cael eu gosod ar wely’r Fenai neu o dan y ddaear, o’r golwg.

Dywedodd Sian Gwenllian wrth golwg360: “Mae hyn yn newyddion gwych i’r Felinheli a’r ardal gyfagos ac yn golygu dim peilonau ar draws y Fenai, sef dymuniad pawb yn lleol.

“Serch hyn, fel aelod o’r Ymgyrch Dim Peilonau sy’n cael ei gadeirio gan Hywel Williams AS, rwyf yn hynod siomedig fod y Grid i weld yn anwybyddu’n llwyr yr opsiwn o gysylltiad tan y môr o Ogledd Môn i Lannau Dyfrdwy.