Tir gwyllt yn Awstralia
Mae dyn wedi cael ei ddarganfod yn farw ar ôl iddo geisio teithio ar draws tir gwyllt Awstralia, neu’r Outback, mewn gwres chwilboeth gydag “ychydig iawn” o ddŵr.

Daethpwyd o hyd i gorff y dyn 60 oed filltir i ffwrdd o dref Wiluna, neithiwr.

Dywedodd yr heddlu ei fod wedi ceisio gyrru 30 milltir i fferm wartheg yn Wiluna pan fu i’w gar dorri i lawr ddydd Sul.

Fe adawodd ei gar a cherdded i geisio dod o hyd i gymorth, gyda dim ond potel fechan o ddŵr.

Ond fe ddaeth trigolion o hyd i’w gorff neithiwr, milltir a chwarter i ffwrdd o’r dref.

Fe fydd crwner yn cynnal post mortem.