Mae heddluoedd yng ngwledydd Prydain wedi bod yn talu teyrnged y bore ma i’r plismyn a gafodd eu lladd yn ystod ymosodiad brawychol ym Mharis ddoe.

Roedd dau aelod o’r heddlu ymhlith 12 o bobol a gafodd eu lladd yn dilyn ymosodiad ar swyddfeydd y cylchgrawn dychanol Charlie Hebdo ddoe. Mae adroddiadau y bore ma bod plismones arall wedi cael ei saethu’n farw mewn digwyddiad yn ne Paris.

Bu heddluoedd gwledydd Prydain yn cynnal munud o dawelwch am 10.30 y bore ma, 24 awr ar ôl y gyflafan yn Ffrainc.

Cymdeithas Uwch Swyddogion yr Heddlu a Ffederasiwn yr Heddlu oedd wedi gofyn i blismyn roi’r deyrnged.

Dywedodd llywydd y Gymdeithas, Syr Peter Fahy: “Mae holl aelodau heddluoedd gwledydd Prydain wedi cael sioc ynghylch natur fwystfilaidd yr ymosodiad hwn.

“Mewn unrhyw gymdeithas ddemocrataidd, rôl yr heddlu yw amddiffyn hawliau dynol sylfaenol ac fe fu farw dau o’n cydweithwyr yn Ffrainc wrth amddiffyn yr hawl i siarad yn rhydd.”

Ychwanegodd fod y ddau wedi dangos “cryn ddewrder” wrth eu gwaith.

Dywedodd Uwch Gwnstabl Trafnidiaeth yr Heddlu Paul Crowther fod ei dimau wedi cymdeimlo â heddluoedd Ffrainc wrth fynedfa’r Eurostar yn St Pancras yn Llundain.

Clegg yn beirniadu Farage

Yn y cyfamser, mae Dirprwy Brif Weinidog Prydain, Nick Clegg wedi cyhuddo arweinydd UKIP, Nigel Farage o fanteisio ar y gyflafan i ddweud bod Moslemiaid Prydain yn “rhan o’r broblem”.

Mae Farage wedi awgrymu y dylai’r ymosodiad ar swyddfeydd Charlie Hebdo orfodi Llywodraeth Prydain i ail-ystyried ei pholisi o aml-ddiwylliannedd.

Dywedodd Clegg am Farage ar ei raglen radio ar LBC mai ei “ymateb cyntaf yw gwneud pwyntiau gwleidyddol”.

Ychwanegodd mai Moslemaid Prydain sy’n ufuddhau i gyfraith gwlad yw’r “gwrthbwynt mwyaf” i ymosodiadau brawychol.

Dywedodd fod Farage yn anghywir i awgrymu bod “pobol sy’n falch o’u ffydd Foslemaidd yn rhan o’r broblem rywsut” yn gamddehongliad o’r sefyllfa.

Yn gynharach, roedd Farage wedi dweud wrth raglen newyddion Channel 4 fod yna bobol sy’n byw yng ngwledydd Prydain “sy’n ein casau ni”.