Mae Dŵr Cymru wedi dod i gytundeb i fenthyg £230 miliwn gan Fanc Buddsoddi Ewrop mewn ymgais i gadw ei gostau i lawr.
Dywed y cwmni y bydd biliau eu cwsmeriaid yn is os ydyn nhw’n llwyddo i gadw eu costau i lawr.
Mae’r benthyciad yn rhan o raglen gyfalaf gwerth £1.5 biliwn dros gyfnod o bum mlynedd o fis Ebrill ymlaen.
Mae Dŵr Cymru’n darparu gwasanaethau i fwy na thair miliwn o bobol yng Nghymru, Swydd Henffordd a Dyfrdwy.
Bydd y benthyciad yn helpu i gynnal safonau dŵr trwy gynnal gwasanaethau presennol a chyflwyno gwasanaethau newydd i drin dŵr.
Mae Dŵr Cymru wedi benthyg mwy na £500 miliwn gan Fanc Buddsoddi Ewrop ers 2001, sydd wedi ariannu mwy nag £1 biliwn o welliannau i wasanaethau.
Dywedodd Prif Weithredwr Dŵr Cymru, Chris Jones: “Fel cwmni heb gyfranddalwyr, ein hunig ffocws yw darparu’r gwasanaeth gorau posib i’n cwsmeriaid am y pris mwyaf fforddiadwy.
“Er mwyn cyflwyno hyn, rhaid i ni reoli heriau megis cael mynediad i arian ar gyfer ein rhaglenni buddsoddi ar gyfradd gystadleuol, yn ogystal â chadw rheolaeth dynn ar gostau.
“Rydym wrth ein bodd, felly, ein bod ni wedi sicrhau’r cyfleuster benthyg gan ei fod yn ein helpu i gyflwyno mwy o fuddsoddiad a biliau is i’n cwsmeriaid.”
Ychwanegodd Is-Lywydd Banc Buddsoddi Ewrop, Jonathan Taylor fod y cytundeb newydd yn dangos “ymrwymiad clir i ddiogelu afonydd ar draws ardal Dŵr Cymru rhag llygredd”.