Y gwasanaethau brys ar safle'r ail ymosodiad yn Montrouge yn ne Paris
Mae adroddiadau bore ma bod plismones wedi marw a pherson arall wedi’i anafu’n ddifrifol ar ol cael eu saethu mewn ardal yn ne Paris.
Daw’r ymosodiad diweddaraf ddiwrnod ar ôl ymosodiad brawychol ar swyddfa bapur newydd Charlie Hebdo, pan gafodd 12 o bobol eu lladd.
Ychydig wedi wyth o’r gloch, fe gafodd ergydion gwn eu clywed yn ardal Montrouge yn ne Paris. Dywedodd gorsaf deledu Itele bod dau berson yn gorwedd ar y llawr.
Mae prif swyddog diogelwch Ffrainc wedi gadael cyfarfod brys i deithio i safle’r digwyddiad diweddaraf.
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu ym Mharis ei bod yn rhy gynnar i ddweud a oedd cysylltiad rhwng y digwyddiad â’r ymosodiad ar bencadlys Charlie Hebdo a ddigwyddodd amser cinio ddoe.
Chwilio
Lai na 24 awr wedi’r ymosodiad yng nghanol Paris, mae asiantaethau newyddion o Ffrainc yn dweud bod saith o bobol wedi cael eu harestio ac yn cael eu holi – wrth i ymgyrch enfawr i ddod o hyd i’r ddau frawd, Said Kouachi a Cherif Kouachi, sy’n cael eu hamau o’r ymosodiad, barhau.
Mae trydydd dyn, Hamyd Mourad, 18, wedi ildio i’r awdurdodau.
Mae Arlywydd Ffrainc, Francois Hollande, wedi cyhoeddi diwrnod o alaru.
‘Teimlad iasol’
Dywedodd Lara Catrin, sy’n byw ym Mharis, wrth golwg360 bod “teimlad iasol iawn” yn y ddinas wrth i wylnosau gael eu cynnal neithiwr:
“Ond mae cryfder yn yr awyr,” meddai, “ac fe wnaeth y degau o filoedd o bobol ddaeth allan i’r strydoedd brofi bod Paris wedi uno.”