Nadine Aburas
Mae ymgyrch i geisio dod o hyd i “ddyn peryg” sy’n cael ei gysylltu â marwolaeth dynes mewn gwesty yng Nghaerdydd yn parhau, a mwy na 40 o swyddogion yn rhan o’r ymchwiliad.
Dywedodd un o Uwch Arolygwyr Heddlu De Cymru, Paul Hurley, bod cyfrifon a hanes ariannol y dyn 44 oed o Efrog Newydd, Sammy Almahri, yn cael eu harchwilio mewn ymgais i ddod o hyd iddo.
Credir ei fod bellach wedi ffoi i Tanzania ac mae Heddlu’r De yn cyd-weithio gyda’r awdurdodau yn y wlad yn ogystal ag yn yr Unol Daleithiau.
Cafwyd hyd i gorff Nadine Aburas, 28 oed, o Gaerdydd mewn ystafell wely yng ngwesty’r Future Inn tua hanner nos ar Nos Galan.
“Mae ymchwiliadau post mortem pellach yn cael eu cynnal ac fe fydd y canlyniadau yn cael eu rhyddhau yn fuan,” ychwanegodd yr Uwch Arolygwyr, Paul Hurley.