Tesco yn bwriadu cau ei bencadlys a 43 o siopau sydd ddim yn gwneud elw wrth i werthiant y cwmni archfarchnad ostwng
Mae’n rhan o gyfres o fesurau sy’n cael eu cyflwyno gan y pennaeth newydd Dave Lewis.
Fe ddaeth y cyhoeddiad wrth i’r cwmni gyhoeddi bod gwerthiant yn y 19 wythnos hyd at Ionawr 3 wedi gostwng 2.9%.
Mae Tesco hefyd yn bwriadu dod a’i gronfa pensiwn i ben a chau ei bencadlys yn Cheshunt, Sir Hertford yn 2016 a symud i Welwyn Garden City. Mae disgwyl i’r ail-strwythuro arbed £250 miliwn y flwyddyn.
Mae hefyd yn gwerthu Tesco Broadband a’i fusnes Blinkbox i TalkTalk.
Dywedodd y prif weithredwr Dave Lewis: “Mae gennym ni newidiadau anodd iawn i’w gwneud.”
Marks & Spencer
Yn y cyfamser mae Marks & Spencer wedi cyhoeddi canlyniadau gwael ar gyfer gwerthiant dillad gyda gostyngiad o 5.8% yn y 13 wythnos hyd at Ragfyr 27.
Dywedodd y prif weithredwr Marc Bolland wedi dweud bod “perfformiad anfoddhaol” ei ganolfan ddosbarthu ar-lein wedi cyfrannu at y gwerthiant gwael ond bod eu gwerthiant bwyd wedi cynyddu 0.1% yn yr un cyfnod.