Y brodyr Said Kouachi, chwith, a Cherif Kouachi
Mae’r heddlu ym Mharis sy’n chwilio am frawychwyr fu’n gyfrifol am yr ymosodiad ar bapur newydd dychanol Charlie Hebdo ddoe, wedi arestio nifer o bobl, yn ôl Prif Weinidog Ffrainc Manuel Valls.

Cafodd lluniau o’r ddau ddyn sy’n cael eu hamau o’r ymosodiad ym Mharis eu rhyddhau gan yr heddlu. Mae trydydd dyn wedi ildio i’r awdurdodau.

Roedd Hamyd Mourad, 18, wedi mynd at yr heddlu ar ôl clywed ei enw ar y newyddion mewn cysylltiad â’r ymosodiad, meddai swyddog.

Ond mae’r chwilio’n parhau am ddau ddyn arall sy’n cael eu hamau o’r ymosodiad, y brodyr Said Kouachi a Cherif Kouachi, gyda miloedd o blismyn ar strydoedd Ffrainc yn chwilio amdanyn nhw.

Yn y cyfamser mae plismon wedi cael ei anafu ar ol cael ei saethu yn ne Paris y bore ma. Credir bod gwn wedi cael ei danio mewn gorsaf drenau tanddaearol. Dywed yr heddlu ei bod yn rhy gynnar i ddweud a oes cysylltiad rhwng y ddau ddigwyddiad.

Diwrnod o alaru

Dywedodd y Prif Weinidog Manuel Valls mai atal ymosodiad arall yw eu prif flaenoriaeth a’u bod yn apelio ar lygad dystion i fynd at yr heddlu.

Cafodd 12 o bobl eu saethu’n farw yn yr ymosodiad ddoe, gan gynnwys golygydd y cylchgrawn ac o leiaf tri o’r dylunwyr cartŵn ynghyd a dau blismon. Cafodd pump o bobol eraill eu hanafu’n ddifrifol.

Roedd Charlie Hebdo wedi trydar cartŵn o’r proffwyd Mohammed funudau cyn yr ymosodiad, gyda neges yn dymuno ‘gwyliau hapus’ i’w ddarllenwyr.

Mae’r ymosodiad wedi cael ei gondemnio gan arweinwyr ar draws y byd ac mae Arlywydd Ffrainc  Francois Hollande wedi cyhoeddi diwrnod swyddogol o alaru.

Neithiwr, cafodd gwylnosau eu cynnal ym Mharis a lleoliadau ar draws y byd.