Mae Shell wedi dod i gytundeb gwerth £55 miliwn i dalu iawndal i filoedd o bobl yn Nigeria a gafodd eu heffeithio ar ôl i olew ollwng.

Dywed y cwmni olew eu bod wedi dod i gytundeb gyda chymuned o bysgotwyr a ffermwyr yn y Niger Delta ar ôl dau ddigwyddiad “hynod anffodus” o olew yn gollwng yn 2008.

Mae cyfreithwyr sy’n cynrychioli 15,600 o bobl yn dweud mai dyma’r cytundeb cyntaf o’i fath. Mae disgwyl i bob un o’r rhai sydd wedi gwneud cais am iawndal dderbyn £2,000 yr un.