David Cameron ac Angela Merkel yng nghynhadledd Nato yng Nghasnewydd y llynedd
Fe fydd Canghellor yr Almaen, Angela Merkel yn cwrdd â David Cameron yn Downing Street heddiw.
Mae disgwyl i’r Prif Weinidog geisio cael cefnogaeth Angela Merkel i’w ymdrech i ddiwygio aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd ar ôl yr etholiad cyffredinol ym mis Mai.
Mae ymweliad Angela Merkel yn rhan o gyfres o ymweliadau a phrifddinasoedd tramor cyn uwch-gynhadledd y G7 yn Bafaria ym mis Mehefin.
Dywed Downing Street y bydd cynlluniau David Cameron i ddiwygio’r Undeb Ewropeaidd hefyd yn cael eu trafod.