Y Gweinidog Addysg, Huw Lewis
Bydd myfyrwyr sy’n rhagori yn eu maes yn gallu cael mynediad i hyd at £20,000 o nawdd i ddysgu pynciau fel mathemateg, Cymraeg a Ffiseg mewn ysgolion uwchradd yn y flwyddyn academaidd nesaf.
Mae’r cymhelliant ariannol yn rhan o waith Llywodraeth Cymru i godi safonau addysg tros Gymru, a chynyddu safon y graddedigion sy’n dewis dysgu fel proffesiwn.
Cyhoeddodd y Gweinidog Addysg, Huw Lewis fod myfyrwyr sy’n derbyn gradd gyntaf yn gallu hawlio £20,000 i ddysgu pynciau fel Cymraeg, Mathemateg, Ffiseg a Chemeg mewn ysgolion uwchradd, gyda graddedigion gyda gradd 2.1 yn derbyn £10,000 a graddedigion gyda 2.2 yn derbyn £6,000.
Bydd grant o £3,000 yn cael ei wobrwyo i raddedigion gradd gyntaf sy’n cymryd cwrs dysgu ôl-radd, mewn pynciau eraill heblaw am yr uchod, gyda bwrsariaeth o £3,000 i fyfyrwyr fydd yn hyfforddi i fod yn athrawon ysgolion cynradd.
Dywedodd y Gweinidog Addysg, Huw Lewis fod y cymhelliant ariannol hwn yn fodd o gynyddu safonau ym myd addysg yng Nghymru,
“Fel rhan o’n gwaith parhaus i gynyddu safonau addysg yng Nghymru, mae’n bwysig ein bod yn denu myfyrwyr talentog a safonol i’r maes addysg.”