Bydd aelodau o undeb athrawon NASUWT yn cynnal streic yn Ysgol Gyfun Penweddig, Aberystwyth ddydd Gwener.

Mae’n debyg y bydd tua 23 o athrawon ar streic ar 9 Ionawr ac ni fydd yr ysgol ar agor i ddisgyblion blynyddoedd 7 i 10.

Yn ôl yr Undeb mae’r aelodau’n cynnal y streic am eu bod yn anhapus gyda “dulliau rheoli gwrthwynebus, a chamdriniaeth o weithdrefnau disgyblaethol, a chynnydd mewn llwyth gwaith.”

Dywedodd yr NASUWT na ellir gwneud sylw ar broses ddisgyblu unigol, gan y byddai hynny yn amhriodol.

Fodd bynnag, mae’r NASUWT yn dweud eu bod yn awyddus i drafod a datrys yr anghydfod er mwyn osgoi streic.

O ganlyniad, mae Cyngor Ceredigion wedi cyhoeddi ei bod yn bwriadu cyfarfod gyda’r undeb o fewn y 48 awr nesaf i geisio datrys yr anghydfod.