Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn cyhuddo Plaid Cymru o ‘ragrith’ ar ôl i ffigurau ddatgelu fod 4,000 o weithwyr yn ennill llai na’r cyflog byw a 600 ar gytundebau dim oriau mewn awdurdodau sy’n cael eu harwain gan Blaid Cymru.
Un o brif bolisïau Plaid Cymru yw sicrhau fod cyflogau byw i bawb yng Nghymru.
Gwnaeth y Democratiaid Rhyddfrydol gais rhyddid gwybodaeth ar gyfer awdurdodau lleol Conwy, Ceredigion a Gwynedd yn holi am gyflogau byw.
Canfuwyd fod 4,000 o bobl sy’n gweithio i gynghorau sy’n cael eu harwain gan Blaid Cymru yn ennill llai na’r cyflog byw, gyda 600 wedi’u cyflogi ar gytundebau dim oriau.
Mae’r cyflog byw yn £7.85 yr awr, ac yn cael ei bennu yn annibynnol gan y Sefydliad Cyflog Byw yn seiliedig ar gostau byw ym Mhrydain.
Dywedodd AS Ceredigion, Mark Williams: “Mae rhagrith Plaid Cymru dros gyflogau byw yn anhygoel. Roedd gan Blaid Cymru’r wyneb i ysgrifennu at sefydliadau yn pregethu am gyflogau byw, tra bod ei chynghorau yn gwrthod talu’r raddfa. Dylent sicrhau bod eu tŷ mewn trefn cyn pregethu i eraill.”
‘Camau pendant’
Cadarnhaodd Plaid Cymru fod y ffigyrau yn gywir tra’n tynnu sylw at y toriadau sy’n wynebau’r awdurdodau lleol.
Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: “£7.11 ydi graddfa isaf Cyngor Gwynedd bellach a rhaid cofio fod hyn oll yn digwydd gyda chefndir o doriadau o £50m i gyllideb y cyngor yn sgil penderfyniadau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan.”
Dywedodd Aelod Seneddol Arfon, Hywel Williams fod y blaid wedi ymrwymo i sicrhau cyflogau byw.
“Mae Plaid Cymru wedi ymrwymo’n llwyr i sicrhau cyflog byw a rhoi terfyn ar gytundebau dim oriau gorfodol.
“Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi methu crybwyll y camau pendant mae cynghorau Plaid Cymru wedi eu cymryd i daclo’r problemau hyn.”
Codiad Cyflog
Ychwanegodd Hywel Williams: “Yng Ngwynedd, mae cyngor Plaid Cymru wedi sicrhau codiad cyflog i’r 2,000 o weithwyr sydd ar y cyflogau isaf tra’n torri biwrocratiaeth yn yr haenau rheolaeth uchaf.
“Yn yr un modd yng Ngheredigion ble mae Plaid Cymru wedi arwain y cyngor ers 2012, mae lleihau’r anghyfartaledd cyflog oedd wedi tyfu dan y weinyddiaeth flaenorol a gefnogwyd gan y Democratiaid Rhyddfrydol wedi bod yn flaenoriaeth.”