Mae Eisteddfod yr Urdd wedi cyhoeddi rhestr newydd o gystadlaethau galwedigaethol cyfoes yn y gobaith y bydd yn denu cynulleidfa newydd i gystadlu, yn dilyn cydweithio â CholegauCymru.

Bydd cystadlaethau newydd yn cwmpasu galwedigaethau yn amrywio o adeiladwaith i ofal plant yn cael eu cyflwyno yn Eisteddfod yr Urdd Caerffili a’r Cylch 2015. Ymhlith y galwedigaethau eraill mae dylunio, ffasiwn, trin gwallt a harddwch.

Fe gyhoeddodd Efa Gruffudd Jones, cyfarwyddwr yr Urdd y llynedd yng nghylchgrawn Golwg ei bwriad i gyflwyno galwedigaethau newydd, gyda’r cystadlaethau newydd bellach ar y rhestr.

Fel rhan o ymdrechion i sicrhau bod y Gymraeg yn iaith gyfoes a pherthnasol i fywyd pobl ifanc o bob cefndir a llwybr gyrfa, mae’r Eisteddfod yn cynnig cyfle i gystadlu ac arddangos ystod ehangach o ddoniau a sgiliau.

‘Codi hyder’

Dywedodd Claire Roberts, Cyfarwyddwr Dwyieithog ColegauCymru: “Mae addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog wedi gweld cynnydd cyson yn y colegau addysg bellach dros y blynyddoedd diwethaf.

“Ond er mwyn codi hyder a meithrin teimlad o berchnogaeth a pherthnasedd mae’n holl bwysig atgyfnerthu’r dysgu y tu allan i’r ystafell ddosbarth neu’r gweithle.

“Dwi’n hynod o falch gan hynny bod yr Urdd wedi bod yn barod iawn i gydweithio â CholegauCymru i gynnig cyfle newydd i bobl ifanc sydd â sgiliau galwedigaethol ar draws ystod o feysydd i fedru cystadlu yn yr Eisteddfod ac agor y drws iddynt i fywyd a bwrlwm yr Eisteddfod.”

Ehangu

Dywedodd Aled Sion, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd, “Mae’r cystadlaethau hyn wedi eu hychwanegu at yr ystod arferol yn dilyn ymgynghoriad gan weithgor annibynnol o’r Eisteddfod.

“Roeddem yn awyddus i ehangu’r math o gystadlaethau oedd yn cael eu cynnig, a thrwy gydweithio gyda CholegauCymru, ein gobaith yw cryfhau ein cyswllt â phobl ifanc o bob cefndir gan gynnig arbenigedd 15 coleg a sefydliad addysg bellach i aelodau’r Urdd. Rydym yn ffyddiog y bydd cryn ddiddordeb yn y cystadlaethau hyn.”