Jonathan Edwards - gwobr fawr gyda'i gyfrol gynta'
Mae bardd o Gymru sydd wedi ennill un o brif wobrau barddoniaeth Saesneg yn dweud ei fod wedi ei ysbrydoli gan y bobol o’i gwmpas yng Nghymoedd Gwent a Chasnewydd.

Fe gafodd Jonathan Edwards o Cross Keys ganmoliaeth uchel wrth i’w gyfrol gynta’, My Family and Other Superheroes, ennill gwobr Llyfr Barddoniaeth Costa ar gyfer 2014.

“Maen nhw jyst yn ymwneud ag edrych  o ’nghwmpas i ble dw i’n byw a’r bobol o ’nghwmpas i,” meddai’r bardd, sy’n athro yn Ysgol Ferched Trefynwy, wrth Radio Wales.

“Maen nhw jyst yn bethau yr ydw i wedi bod yn sgriblam amdanyn nhw yn fy stafell ffrynt yn Cross Keys.”

‘Llawn llawenydd’

Ond, yn ôl beirniaid y wobr, mae’r cagliad “yn ddeinamig a llawn llawenydd, yn gwneud i chi chwerthin a meddwl yr un pryd”.

Fe gafodd yr enillwyr eu cyhoeddi neithiwr ac fe fydd y gyfrol bellach yn cystadlu am brif wobr Llyfr y Flwyddyn ddiwedd y mis.

Roedd y wobr am ennill y categori yn £5,000 ac mae’r brif wobr yn £30,000.

Ailargraffu

Mae’r gyfrol yn cael ei chyhoeddi gan y cwmni cyhoeddi Cymreig, Seren, ac mae eisioes yn cael ei hailargraffu ar ôl i’r argraffiad cynta’ werthu’n llwyr.

Roedd Jonathan Edwards, sydd wedi ei fagu yn Cross Keys, wedi cael bwrsariaeth gan Lenyddiaeth Cymru ond roedd y gyfrol wedi cymryd tua deng mlynedd, meddai.

Mae ei waith wedi ei gyhoeddi mewn nifer o gylchgronau barddoniaeth a phapurau fel y Morning Star.

‘Dosbarth gwaith a chenedlaetholgar’

Yn ôl disgrifiad y llyfrwerthwyr Waterstones, sy’n cefnogi’r wobr, mae’r gyfrol yn edrych ar y Cymoedd ôl-ddiwydiannol trwy ffenest diwylliant pop.

Mae’r arwyr yn y teitl wedi’u cynnwys ochr yn ochr â mamau, tadau, tad-cus a mam-gus o’r Cymoedd ar cyfan, meddai’r llyfrwerthwyr, wedi eu disgrifio “gyda chynhesrwydd mawr”.

“Mae cerddi eraill,” medden nhw, “yn canolbwyntio ar y terasau clos a strydoedd mawr gwat lle mae gwleidyddiaeth dosbarth gwaith a chenedlaetholgar yn cael ei gweithio”.