Senedd Sbaen
Mae nifer y bobl yn Sbaen sydd mewn gwaith wedi cynyddu o 417,574 yn 2014 o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
Dyma’r cynnydd blynyddol cyntaf ers 2007 sy’n brawf fod y wlad yn gwella o’r argyfwng economaidd.
Dywedodd y Weinyddiaeth Lafur heddiw fod nifer y bobl sydd mewn gwaith erbyn 2014 yn 16.8 miliwn.
Mae nifer y bobl sydd heb waith wedi gostwng 253,627 i gyfanswm o 4.45 miliwn sy’n parhau i ddisgyn ers y flwyddyn ganlynol. Mae Sbaen wedi profi dau ddirwasgiad, gyda’r diwethaf yn dod i ben ar ddiwedd 2013.