Tabledi Ecstasi
Mae heddlu yn Suffolk wedi darganfod dros 400 o dabledi ecstasi ac yn credu eu bod nhw’n gysylltiedig ag o leiaf dwy farwolaeth yn y sir.

Dywedodd swyddogion bod y tabledi wedi cael eu darganfod ger llecyn cyhoeddus yn Ipswich neithiwr.

Yn ôl yr heddlu, mae’r tabledi yn cyd-fynd a disgrifiad o gyffuriau gafodd eu cymryd gan ddyn 24 oed o’r enw Gediminas Kulokas, fu farw yn Ipswich ar Ddydd Calan, a dyn arall 22 oed, Justas Ropas, fu farw yn Ipswich ar Noswyl Nadolig.

Mae ymchwiliad hefyd ar droed i geisio canfod cysylltiad gyda marwolaeth dyn sydd wedi cael ei enwi’n lleol, John Hocking, 20 oed, o Suffolk, a Daniel Bagnall, 27 oed a fu farw mewn eiddo yn Telford ar Ddydd Calan.

Datblygiad

“Mae’r darganfyddiad yma yn ddatblygiad mawr yn ein hymchwiliad i gyflenwad o gyffuriau peryglus a all fod yn gysylltiedig â marwolaeth dau ddyn ifanc yn Ipswich,” meddai’r Uwch-arolygydd Jon Brighton.

“Os yw’r cyffuriau yn profi i fod yn gysylltiedig â’r marwolaethau, fe fyddwn ni wedi lleihau risg o anafiadau difrifol neu farwolaethau eraill oherwydd y bilsen ecstasi yma.”

Mae un dyn wedi cael ei gyhuddo a dau arall wedi cael eu harestio a’u rhyddhau ar fechnïaeth fel rhan o’r ymchwiliad i’r marwolaethau.