Mae Gogledd Corea wedi rhyddhau datganiad blin iawn yn beirniadu’r Unol Daleithiau am orfodi sancsiynau ar ei gwleidyddion a’i diwydiant amddiffyn.
Fe ddaw hyn wedi’r “ymosodiad seibr” gan Ogledd Corea yn erbyn cwmni ffilmiau Sony. Ond mae Gogledd Corea yn gwadu unrhyw ran yn y weithred o hacio i gyfrifon e-bost a ffeiliau busnes y cwmni.
Heddiw, mae llefarydd ar ran gweinyddiaeth dramor Gogledd Corea wedi cyhuddo America o greu tensiwn “hollol di-sail” a diangen yn erbyn Pyongyang. Ond, fydd y sancsiynau ddim yn gwneud gronyn o wahaniaeth nac yn llwyddo yn eu bwriad o dlodi grym milwrol y wlad, meddai wedyn.
Roedd Gogledd Corea wedi gwylltio oherwydd bwriad cwmni Sony Pictures Entertainment i gyhoeddi ffilm o’r enw The Interview, sy’n dangos arweinydd y wlad, Kim Jong Un, yn cael ei ladd.
Fe gafodd y ffilm ei thynnu’n ôl rhag ei dangos mewn sinemâu, ond fe gafodd ei rhyddhau wedyn mewn rhai mannau, ac ar-lein.