Mae Heddlu De Cymru yn apelio am gymorth y cyhoedd, wedi i gorff dyn gael ei ganfod ar draeth yn sir Abertawe fore heddiw.

Fe gafodd plismyn eu galw i Bier y Mwmbwls am 10.50yb heddiw.

Dydyn nhw ddim yn chwilio am neb arall mewn cysylltiad â’r farwolaeth.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth berthnasol gysylltu â Heddlu De Cymru ar y rhif 101, neu ffonio Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.