Mae’r Pab wedi enwi 15 o gardinaliaid newydd, y mae wedi’u dewis o 14 o genhedloedd gwahanol – ond fe ddaeth cyhoeddiad annisgwyl ganddo heddiw hefyd, yn dweud y bydd yn cynnal cyfarfod o’r holl gardinaliaid y mis nesa’, gyda’r bwriad o ad-drefnu’r ffordd y mae’r Fatican yn cael ei redeg.

Fe ddaw’r cardinaliaid newydd o lefydd mor amrywiol â Tonga, Seland Newydd, Cape Verde a Myanmar – efo’r bwriad o adlewyrchu amrywiaeth yr Eglwys Babyddol a’i thwf mewn llefydd fel Asia ac Affrica. Mae eraill yn hanu o Ethiopia, Gwlad Thai a Fietnam, ynghyd â Sisili.

Mae pob un o’r pymtheg cardinal newydd dan 80 oed, ac felly’n gymwys i bleidleisio am y Pab nesa’.

Ond wrth gyhoeddi hyn wrth dorf yn Sgwar St Pedr, fe gyhoeddodd hefyd y bydd cyfarfod o’r holl gardinaliaid ar Chwefror 12-13, a hynny er mwyn “edrych ar gyfeiriadau a chynigion ar ad-drefnu’r Curia” (trefn weinyddol y Fatican).

Mae’r Pab Ffransis wedi dweud ei fod yn bwriadu defnyddio ei gyfnod yn y Fatican i gael gwared â thwyll, aneffeithiolrwydd a phroblemau eraill o fewn y drefn.