Simon Hughes - "clymblaid yn gallu gweithio"
Fe allai’r Democratiaid Rhyddfrydol fynd i mewn i glymblaid arall – gyda’r Ceidwadwyr neu Lafur – wedi’r etholiad cyffredinol ym mis Mai eleni, yn ôl un o’u gwleidyddion mwya’ profiadol.

Mae Simon Hughes wedi dweud heddiw mai bwriad y blaid ydi dod allan o’r etholiad yn y trydydd safle… ac maen nhw hefyd, meddai, yn fodlon ystyried taro bargen ar glymblaid arall, os bydd angen.

“Y cyhoedd sy’n penderfynu faint o seddau y mae pob plaid yn eu hennill,” meddai Simon Hughes. “Dydan ni ddim yn ceisio rhagweld hynny. Ond, mi fyddwn ni fel plaid yn fodlon gweithio gyda phartner mewn clymblaid er lles pawb.

“Dyna’n cyfrifoldeb ni, rydan ni wedi gwneud gwaith da y tro hwn, ac rydan ni wedi profi y medrwn ni ei wneud o, a bod clymblaid yn gallu gweithio.

“Clymblaid oedd yr ateb gorau ar gyfer pawb bum mlynedd yn ôl, roedd y blaid Lafur wedi colli’r etholiad, a doedd yna ddim digon o niferoedd i ni allu dod i gytundeb efo Llafur. Felly mi wnaethon ni drefniant busnes efo’r Ceidwadwyr.

“Y tro hwn, mi fasan ni’n fodlon gwneud yr union yr un peth, sef mynd i mewn i drafodaeth efo p’un bynnag blaid sydd efo’r nifer mwya’ o seddi yn y Senedd. Hynny ydi, os na fydd yna fwyafrif clir.”