Mae grwp eithafol Boko Haram wedi herwgipio tua 40 o fechgyn a dynion ifanc yng ngogledd-ddwyrain Nigeria.
Yn ôl adroddiadau lleol, fe ddaeth y grwp i bentre’ pellennig Malari ddoe, gan annog pobol o ddod allan o’u tai i wrando ar bregeth.
Ond pan ddaethon nhw allan, fe gawson nhw eu saethu, ac fe gafodd dynion ifanc cryf o gorff rhwng 12-25 eu herwgipio.
Mae ymladdwyr Boko Haram wedi herwgipio cannoedd o fechgyn a merched yn ystod y flwyddyn aeth heibio.