Mae ymosodiadau awyr gan lywodraeth Pacistan wedi lladd 31 o wrthryfelwyr, ac mae ymosodiad drôn gan America wedi lladd saith arall ar y ffin ag Afghanistan.

Yn ôl datganiad gan fyddin y wlad, fe lwyddodd yr ymosodiadau awyr i ddinistrio pedwar gwersyll cudd gan y gwrthryfelwyr yn nyffryn Tirrah yn ardal Khyber. Roedd yno hefyd, yn ôl adroddiadau, wersyll hyfforddi hunanfomwyr.

Bwriad y cyrchoedd yn ardal Khyber ydi targedu’r gwrthryfelwyr sydd wedi dianc o ogledd Waziristan. Ers Mehefin 15, 2014, mae byddin Pacistan yn honni eu bod wedi bod yn llwyddiannus yn lladd 1,200 o wrthryfelwyr.