Fe fydd Ched Evans yn arwyddo cytundeb gyda chlwb o Adran Gyntaf, Cynghrair Pêl-droed Lloegr yr wythnos hon, yn ôl prif weithredwr cymdeithas y pêl-droedwyr proffestiynol (PFA).
Mae Gordon Taylor wedi bod yn siarad ar donfeddi’r BBC heddiw, gan ddweud y bydd enw’r clwb a manylion y cytundeb yn cael ei gyhoeddi mewn cynhadledd i’r wasg ymhen ychydig ddyddiau.
Ddydd Gwener, fe gyhoeddodd clwb Hibernians o Ynys Melita eu bod nhw wedi cynnig cytundeb i gyn-ymosodwr Cymru a Sheffield United. Ond, oherwydd fod Ched Evans wedi treulio dwy flynedd a hanner dan glo am dreisio merch, dydi amodau ei drwydded ddim yn caniatau iddo weithio dramor.
“Gan gofio beth ddigwyddodd wedi rhyddhau Ched Evans o’r carchar, a’r holl anniddigrwydd ynglyn â’r awgrym y gallai Sheffield United fod yn ei arwyddo eto, rydan ni’n teimlo y dylai unrhyw glwb sy’n rhoi cyfle iddo fod yn gwneud hynny am y rhesymau cywir,” meddai Gordon Taylor.
“Fel cymdeithas, rydan ni’n teimlo nad ydi Ched Evans wedi gallu dweud llawer am hyn i gyd oherwydd fod yna broses apêl yn mynd rhagddi, ond mae o wedi treulio cyfnod dan glo, mae o wedi talu’r pris, a gwaith y gymuned ehangach ydi edrych am ffyrdd o’i dderbyn yn ôl.”