Scarlets 22–10 Gweilch

Talodd y Scarlets y pwyth yn ôl i’r Gweilch trwy ennill yr ail gêm ddarbi rhwng y ddau ranbarth mewn wythnos ar Barc y Scarlets nos Sadwrn.

Y Gweilch aeth â hi yn y gêm gyfatebol ar y Liberty’r wythnos ddiwethaf ond roedd Bois y Sosban rhy dda i’w harch elyn y tro hwn, ac roedd cais yr un i Liam Williams a Jon Barclay ynghyd â deuddeg pwynt o droed Priestland yn ddigon i sicrhau’r fuddugoliaeth.

Hanner Cyntaf

Dechreuodd y Scarlets ar dân a bu bron i’w chwarae agored arwain at gais cynnar ond bu rhaid iddynt fodloni ar gic gosb o droed Rhys Priestland yn y diwedd.

Unionodd Dan Biggar bethau tra yr oedd Scott Williams yn y gell gosb ond Bois y Sosban oedd y tîm gorau o hyd.

Adferodd Priestland y tri phwynt o fantais chwarter awr cyn yr egwyl ond roedd perfformiad hanner cyntaf y Scarlets yn haeddu cais hefyd ac fe ddaeth hwnnw’n fuan wedyn. Bylchodd Priestland yn daclus cyn rhyddhau i Liam Williams i sgorio.

Methodd Priestland y trosiad ond llwyddodd gyda chic gosb ar ddiwedd yr hanner wrth i’r pac cartref reoli yn y sgrym, 14-3 y sgôr ar yr egwyl.

Ail Hanner

Dechreuodd y Scarlets yr ail hanner gyda’r un dwyster ac antur a’r cyntaf, a chawsant eu gwobrwyo gyda chais bron yn syth.

Roedd llai na munud wedi mynd pan hyrddiodd Barclay drosodd yn dilyn rhedeg da gan y ddau Williams, Scott a Liam, o’u hanner eu hunain.

Gan y tîm cartref yr oedd yr oruchafiaeth yn y sgrym o hyd hefyd ac fe ychwanegodd Priestland gic gosb arall toc cyn yr awr i roi’r gêm fwy neu lai allan o afael eu gwrthwynebwyr, 22-3 y sgôr gyda chwarter y gêm i fynd.

Cafodd y Gweilch eu cyfnod gorau wedi hynny ond cais cysur yn unig oedd ymgais Dan Evans yn y diwedd wrth i’r Scarlets ennill yn haeddianol.

Mae’r canlyniad yn eu cadw yn seithfed yn nhabl y Guinness Pro12 ond yn eu cadw o fewn gafael Connacht yn y chweched safle. Mae Gweilch ar y llaw arall yn aros ar y brig.

.
Scarlets
Ceisiau:
Liam Williams 29’, Jon Barclay 41’
Ciciau Cosb: Rhys Priestland 2’, 25’, 39’, 56’
Cerdyn Melyn: Scott Williams 11’
.
Gweilch
Cais:
Dan Evans 67’
Trosiad: Dan Biggar 68’
Cic Gosb: Dan Biggar 14’