Casnewydd 2–1 Carliwelydd

Mae rhediad da Casnewydd yn yr Ail Adran yn parhau yn dilyn buddugoliaeth yn erbyn Caerliwelydd ar Rodney Parade brynhawn Sadwrn.

Aeth yr Alltudion ar ei hôl hi i gôl gynnar Courtney Mappen-Walter, ond unionodd Adam Chapman o’r smotyn cyn i Lee Minshull ennill y gêm iddynt yn yr ail hanner.

Peniodd Mappen-Walter yr ymwelwyr ar y blaen o groesiad Kyle Dempsey wedi dim ond un munud ar ddeg.

Daeth Casnewydd yn ôl i’r gêm yn raddol wedi hynny ac roeddynt yn gyfartal funud cyn yr egwyl, Chapman yn rhwydo o ddeuddeg llath yn dilyn trosedd Danny Grainger ar Ryan Jackson yn y cwrt cosbi.

Roedd Jackson yng nghanol ail gôl y tîm cartref hefyd hanner ffordd trwy’r ail hanner, ei groesiad ef ddaeth o hyd i Aaron O’Connor yn y cwrt cosbi ac er i’w gynnig ef daro’r postyn roedd Minshull wrth law i sgorio ar yr ail gyfle.

Mae’r fuddugoliaeth yn codi Casnewydd i’r pedwerydd safle yn nhabl yr Ail Adran, bwynt yn unig tu allan i’r safleoedd esgyn.

.
Casnewydd
Tîm:
Day, Jones, Yakubu, Poole, Jackson, Chapman, Minshull, Byrne (Porter 86′), Sandell, O’Connor (Jeffers 92′), Zebroski (Howe 72′)
Goliau: Chapman 45’, Minshull 70’
Cerdyn Melyn: Byrne 38’
.
Caerliweleydd
Tîm:
Hanford, Brown, Archibald-Henville, Anderson, Grainger, Dempsey, Sweeney, Thirlwell (Robson 75′), Meppen-Walter (Rigg 83′), Potts, Asamoah (Beck 72′)
Gôl: Mappen-Walter 11’
Cardiau Melyn: Grainger 45’, Robson 82’
.
Torf: 3,273