Tranmere 2–6 Abertawe

Ildiodd y Cymro, Owain Fôn Williams, chwe gôl ar Barc Prenton brynhawn Sadwrn wrth i Abertawe drechu Tranmere yn nhrydedd rownd y Cwpan FA.

Mae’r Elyrch yn yr het ar gyfer y rownd nesaf diolch i goliau Dyer, Carroll, Barrow, Gomis (2) a Routledge.

Er i Abertawe lwyr reoli’r meddiant yn yr hanner cyntaf bu rhaid aros tan ddeuddeg munud cyn yr egwyl am y gôl agoriadol. Daeth Tom Carroll o hyd i Nathan Dyer yn y cwrt cosbi ac er i’w gynnig gwreiddiol gael ei atal fe rwydodd yr asgellwr ar yr ail gyfle.

Roedd y gêm fwy neu lai ar ben ar yr awr diolch i ddwy gôl yn chwarter awr cyntaf yr ail hanner. Creodd Modou Barrow y gyntaf i Carrol cyn sgorio’r ail ei hun yn dilyn gwaith creu Bafétimbi Gomis.

Tynnodd Tranmere un yn ôl pan wyrodd cic Gerhard Tremmel yn erbyn Max Power i gefn y rhwyd ond adferodd Gomis y dair gôl o fantais yn fuan wedyn yn dilyn gwrthymosodiad chwim gyda Marvin Emnes.

Peniodd Cole Stockton ail y tîm cartref saith munud o ddiwedd y naw deg ond yr Elyrch a gafodd y geiriau olaf gyda gôl yr un i Wayne Routledge a Gomis yn y munudau olaf.

.
Tranmere
Tîm:
Williams, Donacien, Holness, Thompson (Kirby 56′), Ihiekwe, Holmes, Power, Jennings, Laird (Rowe 72′), Fenelon (Bell-Baggie 72′), Stockton
Goliau: Power 70’, Stockton 83’
Cardiau Melyn: Holmes 16’, Power 64’,
.
Abertawe
Tîm:
Tremmel, Richards, Bartley, Amat, Tiendalli, Fulton (King 71′), Carroll, Barrow, Emnes, Dyer (Routledge 78′), Gomis
Goliau: Dyer 34’, Carroll 49’, Barrow 58’, Gomis 77’, 90’, Routledge 85’
Cardiau Melyn: Fulton 45’, Barrow 72’, Bartley 82’, Tiendalli 90’
.
Torf: 10,007