Ched Evans - rheolau'r gwasanaeth prawf yn ei gwneud hi'n amhosib iddo weithio dramor
Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi camu i ganol trafodaeth am ddyfodol cyn-bêl-droediwr Cymru a Sheffield United, Ched Evans, trwy gyhoeddi nad oes ganddo hawl i arwyddo i glwb dramor.
Fe ddaeth y datganiad wedi i glwb Hibernians o ynys Melita gynnig cytundeb tan ddiwedd y tymor i Ched Evans, sy’n 26 oed.
Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn dweud nad oes gan unrhyw droseddwr rhyw sydd wedi’i gael yn euog, hawl i weithio dramor.
Fe dreuliodd Ched Evans ddwy flynedd a hanner yng ngharchar am dreisio merch, ac fe gafodd ei ryddhau fis Hydref y llynedd.
“Rydyn ni’n benderfynol fod ganddon ni un o’r strwythurau caleta’ yn y byd o ran rheoli troseddwyr rhyw, er mwyn eu rhwystro nhw rhag drwgweithredu eto, ac er mwyn diogelu dioddefwyr,” meddai llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder.
“Mae’n rhaid i swyddogion prawf roi hawl i droseddwyr rhyw sydd ar drwydded cyn eu bod yn gallu derbyn swyddi, ac mae hyn yn golygu gwneud yn siwr eu bod yn cael cyfarfodydd wyneb yn wyneb, rheolaidd. Mae hyn, yn bendant, yn ei gwneud hi’n amhosib iddyn nhw weithio dramor.”