Ched Evans yn nyddiau Sheffield United
Mae clwb pêl-droed Hibernians yn Ynys Melita wedi cynnig cytundeb i gyn-chwaraewr Cymru a Sheffield United, Ched Evans.
Fe dreuliodd yr ymosodwr 26 oed ddwy flynedd a hanner yn y carchar am dreisio merch, ac fe gafodd ei ryddhau fis Hydref.
Ers hynny, mae dadlau mawr wedi bod ynghylch ei ddyfodol. Tra bod rhai’n dweud ei fod wedi cymryd ei gosb ac yn haeddu symud ymlaen, mae eraill yn dweud na ddylai byth eto gael perfformio ar y maes ffwtbol, o barch i’r ddioddefwraig yn yr achos.
Mewn datganiad, mae un o lywyddion clwb Hibernians, Stephen Vaughan, wedi cadarnhau’r cynnig i Ched Evans:
“Rydan ni angen blaenwr o safon, ac rydan ni’n credu mai Ched Evans ydi’r dyn hwnnw.
“Rydan ni wedi siarad efo’i asiant, ac wedi cynnig cytundeb iddo a fyddai’n para tan ddiwedd y tymor.”