Caerdydd 3–1 Colchester

Mae Caerdydd ym mhedwaredd rownd y Cwpan FA ar ôl trechu Colchester o flaen torf siomedig yn Stadiwm y Ddinas nos Wener.

Daeth llai na 5,000 i weld goliau Joe Ralls, Kadeem Harris a Kenwyne Jones yn sicrhau lle’r Adar Gleision yn yr het ar gyfer y rwond nesaf.

Ychydig iawn gynigiodd Caerdydd yn yr hanner awr agoriadol tan i Peter Wittingham daro’r trawst yn syth o gic gornel!

Rhoddodd hynny hwb i’r Adar Gleision a hwy oedd y tîm gorau am weddill yr hanner. Aethant ar y blaen pan ddaeth Ralls o hyd i gefn y rhwyd o bum llath ar hugain gyda chymorth gwyriad dwbl ffodus iawn.

Bu bron i Tom Adeyemi ddyblu’r fantais yn fuan wedyn ond arbedodd Sam Walker yn isel i’w dde. Yn y pen arall, roedd angen arbediad da gan Simon Moore i atal Gavin Massey.

Dechreuodd Caerdydd yr ail hanner yn dda hefyd ac roeddynt ddwy gôl ar y blaen wedi saith munud diolch i gynnig acrobataidd Harris yn y cwrt cosbi.

Roedd hi’n dair i ddim ar yr awr wedi i Jones sgorio gyda’i gyffyrddiad cyntaf lai na munud ar ôl dod i’r cae fel eilydd. Peniodd i gefn y rhwyd o gic gornel Wittingham.

Cafwyd chwarter awr olaf nerfus braidd yn dilyn gôl i chwaraewr gorau Colchester, Freddie Sears, ond roedd Caerdydd wedi gwneud digon.
.
Caerdydd
Tîm: Moore, Brayford, Turner, Connolly, John, Harris, Adeyemi, Whittingham (Le Fondre 69′), Noone (Fabio 85′), Macheda (Jones 60′), Ralls
Goliau: Ralls 34’, Harris 52’, Jones 60’
.
Colchester
Tîm:
Ealker, Gorkss, Clohessy, Kpekawa, Eastman, Moncur (Lapslie 64′), Szmodics, Fox, Hewitt (Sembie-Ferris 85′), Sears, Massey (Watt 62′)
Gôl: Sears 74’
Cerdyn Melyn: Watt 64’
.
Torf: 4,194