James King
Mae’r blaenwr rhyngwladol 24 oed James King ar fin chwarae ei ganfed gêm i’r Gweilch, a hynny oddi cartref yn y gêm ddarbi fawr yn Llanelli yfory.

Wedi ei eni yn Awstralia a’i fagu yng ngogledd Cymru, mae King yn chwarae i’r Gweilch ers 2009 ac wedi disgleirio a chael ei ddewis gan yr hyfforddwyr yn Chwaraewr y Flwyddyn y tymor diwetha’.

Mae wedi chwarae deirgwaith dros Gymru hefyd.

“Mae’r Gweilch wedi bod yn le gwych i mi ddysgu fy nghrefft, yn gweithio gyda chwaraewyr ac hyfforddwyr o safon, rydw i wedi bod yn lwcus iawn i gael y fath brofiadau,” meddai.

Scarlets v Gweilch yn fyw ar S4C am 4.40 y p’nawn.