Mae capten Lerpwl ac un o’r chwaraewyr gorau yn hanes y clwb wedi cyhoeddi ei fod yn gadael ar ddiwedd y tymor.

Bellach yn 34 oed ac yn anfodlon gyda lle ar y fainc y tymor nesaf, mae Steven Gerrard yn gadael Lerpwl ddiwedd y tymor.

“Dyma fuo penderfyniad anoddaf fy mywyd, un yr wyf i a fy nheulu wedi bod yn poenydio drosto am sbelan go-lew,” meddai’r seren canol cae sy’ wedi treulio’i holl yrfa gyda’r Cochion.

Camodd i’r cae yng nghrys Lerpwl am y tro cynta’ yn 1998.

Yn 2005 roedd yn gapten ar dîm gafodd fuddugoliaeth anhygoel yn ffeinal Cynghrair Pencampwyr Ewrop, wrth i Lerpwl ildio tair gôl cyn unioni’r sgôr ac ennill ar giciau o’r smotyn yn erbyn AC Milan.

Hefyd fe enillodd Gerrard Gwpan Uefa, Cwpan Cynghrair Lloegr deirgwaith ac 114 o gapiau dros Loegr.

Meddai rheolwr presennol Leprwl, Brendan Rodgers: “Dyma gyfnod pan mae gorddefnydd enbyd o’r gair ‘legend’, ond yn yr achos hwn mae yn hollol briodol.”

Y son yw bod Gerrard am orffen ei yrfa draw yn America.