Bydd gêm Gaerdydd yng Nghwpan FA Lloegr yn fyw ar y teledu heno, ac mae un o’r chwaraewyr yn rhybuddio y bydd Colchester United yn dawel hyderus o fedru sicrhau buddugoliaeth.

Er eu bod nhw ar waelod League One, mae Tom Adeyemi yn dweud y daw Colchester United draw i Gymru yn credu y gallan nhw fanteisio ar record wael ddiweddar tîm y brifddinas.

Nid yw Caerdydd wedi ennill yr un o’u pum gêm olaf, ac fe gollon nhw ddydd Sul yn erbyn Watford.

Dan y fath amgylchiadau, mae Adeyemi yn dweud y bydd Colchester yn ffyddiog.

“Mi fyddan nhw wedi gweld yr hyn sy’ wedi bod yn digwydd ac yn meddwl y gallan nhw fynd dan ein crwyn,” meddai’r chwaraewr canol cae.

“Mae disgwyl y byddwn ni’n ennill am ein bod ni gynghrair yn uwch na Colchester, ond ar yr un pryd rydym yn gwybod yn iawn na chawn ni amser hawdd a buddugoliaeth rwydd.”