Jake Ball
Clo’r Scarlets Jake Ball yw’r chweched chwaraewr i arwyddo cytundeb deuol gydag Undeb Rygbi Cymru a’i glwb rhanbarthol.

Mae’r blaenwr barfog yn ymuno gyda chriw dethol sy’n cynnwys capten Cymru Sam Warburton, Dan Lydiate, Rhodri Jones, Hallam Amos a Tyler Morgan.

Ers chwarae am y tor cynta’ ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad y tymor diwetha’ mae Ball wedi ennill wyth o gapiau dros ei wlad.

Dan y cytundebau deuol mae Undeb Rygbi Cymru yn talu 60% o’r costau, a’r rhanbarth felly yn talu 40%.

Credir bod y cytundebau yn ffordd dda o gadw chwaraewyr rhag gadael am borfeydd brasach yn Lloegr a Ffrainc.

“Rydw i’n falch iawn o fod wedi arwyddo cytundeb deuol cenedlaethol ac o fod yn aros yng Nghymru,” meddai Jake Ball.