QPR 1–1 Abertawe
Achubodd Wilfred Bony bwynt i Abertawe ar Ffordd Loftus brynhawn Iau gyda gôl yn yr amser a ganiateir am anafiadau yn erbyn QPR.
Roedd yr elyrch lawr i ddeg dyn erbyn hynny yn dilyn cerdyn coch i Wayne Routledge mewn gêm lawn penderfyniadau dadleuol.
Roedd gôl-geidwad QPR, Rob Green, yn lwcus i aros ar y cae ar ôl llawio tu allan i’r cwrt cosbi yn gynnar.
Yna, aeth y tîm cartref ar y blaen wedi ugain munud gydag ergyd dda Leroy Fer o bellter yn dilyn cliriad gwael Federico Fernandez.
Anfonwyd Routledge o’r cae bedwar munud o ddiwedd y naw deg wedi iddo ymateb yn fyrbwyll i dacl wael arno gan Karl Henry. Gallai chwaraewr QPR fod wedi cael ei anfon oddi ar y cae hefyd yr un mor hawdd ond wnaeth hynny ddim effeithio’r Elyrch yn ormodol.
Yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm fe ddisgynnodd y bêl i Bony yn y cwrt a llwyddodd y blaenwr i’w rheoli a’i gyrru i gefn y rhwyd.
Mae’r canlyniad yn cadw Abertawe’n nawfed yn nhabl yr Uwch Gynghrair.
.
QPR
Tîm: Green, Isla, Dunne, Caulker, Hill, Vargas, Henry, Barton, Fer, Zamora (Hoilett 83′), Austin
Gôl: Fer 20’
Cardiau Melyn: Isla 58’, Dunne 62’, Barton 74’, Henry 86’
.
Abertawe
Tîm: Fabianski, Rangel, Fernández, Williams, Taylor, Britton, Ki Sung-yueng, Dyer (Emnes 60′), Sigurdsson (Bony 71′), Routledge, Gomis
Gôl: Bony 90’
Cerdyn Coch: Routledge 86’
.
Torf: 17,729