Dreigiau Casnewydd Gwent 9–11 Gleision Caerdydd

Talodd y Gleision y pwyth yn ôl i’r Dreigiau ar Rodney Parade brynhawn Iau wrth eu curo mewn gêm ddarbi glos.

Y Dreigiau oedd yn fuddugol yn y gêm gyfartebol chwe diwrnod yn ôl, ond roedd cais Cory Allen a chicio cywir Gareth Anscombe yn ddigon i’r tîm o’r brifddinas ddial.

Roedd Tom Prydie eisoes wedi cicio’r Dreigiau ar y blaen pan groesodd Allen am gais cyntaf y Gleision wedi chwarter awr. Amserodd Anscome ei bas yn  berffaith a holltodd Allen trwy’r amddiffyn i sgorio.

Roedd gwynt cryf tu ôl i’r ymwelwyr yn y deugain munud agoriadol ond dau bwynt oedd ynddi o hyd ar yr egwyl.

Y Gleision ddechreuodd orau yn yr ail gyfnod, gyda Anscome yn trosi gôl adlam gynnar.

Roedd y Dreigiau yn ôl ar y blaen ar yr awr diolch i ddwy gic gosb arall gan Prydie, ond y Gleision a seren y gêm, Anscome, a gafodd y gair olaf gyda cic gosb ddeuddeg munud o’r diwedd.

Ceisiodd Dorian Jones ei lwc gyda gôl adlam hwyr ond methodd y pyst wrth i’r Gleision ddal eu gafael.

Mae’r canlyniad yn codi’r Gleision i’r wythfed safle yn nhabl y Pro12, tra mae’r Dreigiau’n aros yn ddegfed.

.

Dreigiau

Ciciau Cosb: Tom Prydie 2’, 47’, 56’

.

Gleision

Ceisiau: Cory Allen 15’

Cic Gosb: Gareth Anscombe 68’

Gôl Adlam: Gareth Anscombe 41’