Lerpwl 4-1 Abertawe

Colli fu hanes Abertawe wrth herio Lerpwl yn Anfield nos Lun.

Sgoriodd Adam Lallana ddwy waith i’r Cochion wrth i 2014 ddod i ben yn siomedig i’r Elyrch.

Un i ddim i Lerpwl oedd hi ar hanner amser wedi i’r cefnwr, Alberto Moreno, rwydo.

Dyblodd Lallana’r fantais braidd yn lwcus gyda’i gyntaf ef yn gynnar yn yr ail gyfnod pan wyrodd cic Lukas Fabianski oddi arno i gefn y rhwyd.

Hanerodd Gylfi Sigurdsson y fantais bron yn syth ond roedd dwy ynddi eto ar yr awr pan gyfunodd Lallana’n dda gyda Philippe Coutinho ar gyfer trydedd Lerpwl.

Peniodd Jonjo Shelvey i’w rwyd ei hun wyth munud yn ddiweddarach i gadarnhau’r canlyniad.

Mae’r golled yn golygu fod Abertawe yn llithro o dan Lerpwl yn y tabl, i’r nawfed safle.