Cheltenham 0–1 Casnewydd

Mae rhediad gwych Casnewydd yn yr Ail Adran yn parhau yn dilyn buddugoliaeth oddi cartref yn erbyn Cheltenham ar Ffordd Whaddon brynhawn Sul.

Sgoriodd Chris Zebroski unig gôl y gêm wrth i’r Alltudion godi i’r pumed safle yn y tabl.

Ychydig dros ddeg munud oedd wedi mynd pan daniodd Zebroski’r ymwelwyr ar y blaen o ugain llath.

Ismail Yakubu gafodd y cyfle gorau i ddyblu’r fantais ond cafodd peniad yr amddiffynnwr ei glirio oddi ar y llinell.

Bu rhaid i’r Cymry wneud tipyn o amddiffyn yn y munudau olaf hefyd ond llwyddodd tîm Justin Edinburgh i ddal eu gafael yn y diwedd.

Mae’r tri phywnt yn codi Casnewydd ddau le i’r pumed safle yn nhabl yr Ail Adran.

.

Cheltenham

Tîm: Carson, Vaughan, Deaman, Brown, Braham-Barrett, Sterling-James, Ferdinand, Richards, Kotwica, Williams, Gornell (Dale 86′)

.

Casnewydd

Tîm: Stephens, Jones, Yakubu, Poole (Howe 45′), Jackson, Chapman (Flynn 87′), Klukowski, Byrne, Sandell, Zebroski, Jeffers (Porter 71′)

Gôl: Zebroski 11’

Cardiau Melyn: Sandell 26’, Jackson 38’, Chapman 57’, Jones 65’, Yakubu 84’, Porter 90’

.

Torf: 3,417