Caerdydd 2–4 Watford

Cafodd Caerdydd gweir yn y Bencampwriaeth brynhawn Sul wrth i Watford ymweld â Stadiwm y Ddinas.

Er i’r Adar Gleision fynd ar y blaen gyda gôl Adam Le Fondre fe darodd yr ymwelwyr yn ôl gyda phedair gôl i sicrhau buddugoliaeth gyfforddus.

Peniodd Le Fondre Gaerdydd ar y blaen o gic rydd Peter Wittingham hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf.

Cafodd y blaenwr gyfle i ddyblu’r fantais wedi hynny ond cafodd ei atal gan Heurelho Gomes yn y gôl.

Talodd y tîm cartref yn ddrud am hynny gan i Watford daro nôl gyda dwy gôl cyn yr egwyl. Rhwydodd Adlene Guédioura i ddechrau gyda foli o groesiad Gianni Munari cyn i Odion Ighalo benio croesiad Daniel Pudil i gefn y rhwyd.

Ychwanegodd yr ymwelwyr ddwy gôl arall yn yr ail gyfnod. Roedd y gyntaf yn ergyd wych o 30 llath gan Guédioura a’r ail yn beniad taclus gan Gabriele Angella.

Gôl gysur yn unig oedd peniad hwyr Kenwyne Jones wrth i Gaerdydd aros yn ddeuddegfed yn nhabl y Bencampwriaeth.

.

Caerdydd

Tîm: Marshall, Brayford, Ecuele Manga, Morrison, John, Adeyemi (Harris 61′), Whittingham, Gunnarsson (Ralls 61′), Noone, Le Fondre (Macheda 77′), Jones

Goliau: Le Fondre 22’, Jones 90’

.

Watford

Tîm: Gomes, Hoban, Cathcart, Angella, Paredes (Anya 71′), Abdi (Tozser 78′), Guédioura, Munari, Pudil, Ighalo, Forestieri (Deeney 82′)

Goliau: Guédioura 42’, 63’, Ighalo 45’, Angella 83’

.

Torf: 22,208