Mae’r Gweilch wedi gorffen y flwyddyn ar frig tabl Pro 12 ar ôl curo’r Scarlets mewn gêm agos yn y darbi ar Stadiwm Liberty heno.

Er i’r Gweilch reoli’r hanner cyntaf bron yn llwyr, dim ond dau bwynt oedd ynddi ar y diwedd ar ôl i’r Sgarlets ymladd yn ôl yn galed yn yr ail hanner.

Ar ôl cychwyn gweddol araf, fe fu’r Scarlets ar y blaen o 3-6 am bron i hanner awr wedi ciciau cosb gan Rhys Priestland, Dan Biggar a Steven Shingler.

Wedyn, fe wnaeth dau gais gan y Gweilch newid y gêm yn llwyr at ddiwedd yr hanner cyntaf.

Gyda chais gan Aisea Natoga, a gafodd ei drosi gan Dan Biggar, aeth y Gweilch ar y blaen o 10-6.

Roedd rhywfaint o ansicrwydd ynghylch pwy a sgoriodd yr ail gais wrth i sgarmes wthio dros y llinell, ond cafodd Dan Lyddiate ei gadarnhau’n ddiweddarach fel y sgoriwr yn ei gêm gyntaf dros y Gweilch. Unwaith eto, cafodd y cais ei drosi’n llwyddiannus gan Dan Biggar.

Er hyn, dyma oedd y pwyntiau olaf iddyn nhw sgorio yn y gêm wrth i’r Scarlets daro’n ôl.

Roedden nhw wedi cau’r bwlch i 17-9 erbyn diwedd yr hanner cyntaf, ac ar dwy gic gosb arall gan Steven Shingler mewn ail hanner llawer mwy cytbwys, cael a chael oedd hi i’r Gweilch ar y diwedd.