Mae perchennog llong o Norwy wedi cadarnhau fod un o’i fadau wedi suddo ger Fietnam.

Mae cwmni Gearbulk o Bergen yn dweud fod un aelod o’r criw, sy’n hanu o’r Filipinas, wedi goroesi’r ddamwain, tra bod un o drefnwyr yr ymgych i achub y bobol ar fwrdd y llong yn Fietnam, yn dweud fod dau gorff wedi’u canfod.

Yn ôl Gerbulk, roedd y llong Bulk Jupiter tua 155 milltiroedd oddi ar arfordir Fietnam, ar y ffordd o Malaysia i Tsieina, yn cario llwyth o bocsid, pan fu’n rhaid iddi danio signal argyfwng.

Mae tonnau mawr a niwl môr wedi gwneud y gwaith achub yn fwy anodd.