Mae menyw mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty, wedi iddi gael ei thrywanu yn ei hwyneb, ei gwddw a’i chorff.

Fe dioddefodd y ddynes 37 oed yr ymosodiad cyllell yn nhre’ Blackpool toc cyn un o’r gloch y bore.

Mae dyn, 31 oed, y mae’r fenyw’n ei nabod, wedi cael ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio. Mae’n parhau i fod yn y ddalfa.

Fe gafodd y ddynes ei chludo mewn ambiwlans i Ysbyty Frenhinol Preston, lle mae hi mewn cyflwr difrifol ond sefydlog.

Mae’r heddlu wedi dod o hyd i garn cyllell, ond maen nhw’n dal i chwilio am y llafn.