Pauline Cafferkey - ei chyflwr wedi dirywio'n raddol
Mae cyflwr iechyd y nyrs o’r Alban a ddychwelodd gartre’ o Sierra Leone gydag Ebola, wedi dirywio.
Mae Pauline Cafferkey bellach mewn cyflwr difrifol iawn yn Ysbyty’r Royal Free yng ngogledd Llundain.
Mae datganiad byr ar wefan yr ysbyty brynhawn heddiw yn dweud: “Mae’n ddrwg gan Ymddiriedolaeth Iechyd y Royal Free London gyhoeddi fod cyflwr iechyd Pauline Cafferkey wedi dirywio’n raddol dros y deuddydd diwetha’, ac mae bellach yn ddifrifol iawn.”
Fe ddaw’r cyhoeddiad am y wraig 39 oed er bod ei meddyg, yn gynharach yr wythnos hon, wedi ei disgrifio’n eistedd i fyny yn y gwely, yn bwyta, yn yfed ac yn cyfathrebu gyda’i theulu ar Ionawr 1.
Ond mi fethodd yr ysbyty â chael gafael ar ZMapp, y cyffur gafodd ei ddefnyddio i drin y nyrs William Pooley y llynedd – a hynny “oherwydd nad oes mwy o’r cyffur yn y byd ar y funud”.
Mae arbenigwyr yn dweud mai “lwc” fydd yn penderfynu p’un ai fydd Pauline Cafferkey yn gwella ai peidio, oherwydd nad ydyn nhw eto’n gwybod digon am y feirws marwol.