Andrew, Dug Efrog
Mae athro yn y Gyfraith o’r Unol Daleithiau yn annog Dug Efrog i ddefnyddio “pob owns o egni” sydd ganddo i ymladd honiadau sy’n cael eu gwneud amdano mewn dogfennau llys yn America.

Mae’r Athro Alan Dershowitz o brifysgol Harvard – sydd, ynghyd a’r Tywysog Andrew, yn cael ei enwi yn y dogfennau – yn dweud fod yr honiadau’n rhan o “batrwm o honiadau ffug” gan y ferch dan sylw.

Mae’r ferch yn honni iddi gael ei gorfodi i gael rhyw gyda chyfres o ddynion pwerus, amlwg, am arian, pan oedd hi dan oed cydsynio.

“Fy nheimlad i ydi, os ydi hi’n dweud celwydd amdana’ i – ac mae hi, yn bendant – ddylai neb gredu ei honiadau am neb arall chwaith,” meddai Alan Dershowitz wrth raglen radio Today ar Radio 4.

“Rydan ni’n gwybod ei bod hi wedi dweud celwydd am ffigyrau cyhoeddus eraill, yn cynnwys cyn-Brif Weinidog,” meddai, “felly dw i’n credu y dylid tybio bod ei honiadau yn erbyn y Tywysog Andrew hefyd yn rhai ffug.

“All neb ganiatau i honiadau fel hyn hongian uwch ei ben… Mae’n rhaid cwffio’n ol gyda phob owns o egni sydd ganddoch chi.”

Neithiwr, fe gyhoeddodd Palas Buckingham ddatganiad yn dweud nad oedd gwir o gwbwl i’r honiadau am Andrew, Dug Efrog.