Mae cannoedd o bobol wrthi’n talu’r deyrnged ola’ i dri aelod o’r un teulu a laddwyd yn y ddamwain lori ludw yn Glasgow dridiau cyn y Dolig.

Fe laddwyd Erin McQuade, 18, a’i thaid a’i nain, Jack Sweeney, 68 a Lorraine Sweeney, 69, pan gawson nhw eu taro gan lori ludw yn Sgwar Sior ar Ragfyr 22.

Mae 700 o bobol wedi dod ynghyd yn Eglwys Babyddol St Padrig yn Dumbarton, lle mae’r teulu’n byw, ar gyfer offeren, gyda mwy o bobol yn sefyll y tu allan i’r eglwys.

Archesgob Glasgow, Philip Tartaglia, sy’n arwain y gwasanaeth cyhoeddus heddiw. Fe fydd y gwasanaethau claddu’n cael eu cynnal yn breifat.