Mae dyn 24 oed, sy’n gwadu ymosod ar ddynes yn ystod dathliadau’r Flwyddyn Newydd, wedi cael ei wahardd rhag gadael Sir Fôn.

Fe gafodd Oliver White ei ryddhau o’r ddalfa ar fechniaeth amodol, gyda chyfarwyddyd i gadw cyrffiw 8yh-7yb yn Nhraeth Coch.

Chaiff o chwaith ddim gadael yr ynys nes y bydd yn ymddangos gerbron y llys ar Ionawr 15; na chysylltu gyda’r ddynes sydd wedi dwyn y cyhuddiad yn ei erbyn.

Mae Oliver White wedi cyfadde’ difrodi llechi to, a bod a’r cyffur canabis yn ei feddiant.